COVID-19
‘Rydym yn hyderus y byddwn yn gallu parhau i wasanaethi ein cleientiaid yn ystod yr argyfwng, heb beryglu iechyd ein cleientiaid a staff. Mae ein gweithdrefnau a sustemau cyfrifiadurol yn ein galluogi i barhau i weithredu ar faterion cyfredol a derbyn cyfarwyddiadau newydd.
‘Rydym yn dilyn cyngor a chanllawiau’r llywodraeth ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan gynnwys yr anghenraid i ymbellhau yn gymdeithasol. Gall y cyngor swyddogol newid ar unrhyw adeg.
Bydd ein swyddfeydd yn aros ar agor am y tro, tan fydd newid yn y cyngor swyddogol, ond fydd llai o’n cyd-weithwyr yn bresennol yn ein swyddfeydd. Byddant yn ateb y ffon ac yn arolygu’r post. Gallant dderbyn negeseuon neu eich cyfeirio at y person sy’n delio a’ch mater. Cysylltwch â’r person sy’n delio a’ch mater yn uniongyrchol os oes gennych eu manylion cyswllt.
Bydd rhai o’n cyfreithwyr a chyd-weithwyr yn gweithio o adre, yn unol â chyngor swyddogol. Gofynnwn i chi gysylltu dros y ffon neu drwy e-bost; gellir trefnu cyfarfod dros Skype os oes angen. Os oes rhaid cysylltu wyneb yn wyneb bydd angen gwneud trefniadau arbennig.
Gofynnwn i chwi beidio ag ymweld â’n swyddfeydd oni bai ei fod yn hollol angenrheidiol. Os oes angen dychwelyd dogfennau yna gofynnwn i chwi eu postio neu eu rhoi trwy ein blwch llythyrau, yn ystod neu du allan i oriau swyddfa.
Diolchwn i’n holl gleientiaid a chyd-weithwyr am eu cydweithrediad yn ystod yr argyfwng.
23ain o Fawrth 2020
Mae Carter Vincent yn cynnig ystod eang o wasanaethau cyfreithiol i gleientiaid yng Ngogledd Cymru a thu hwnt.
Ffurfiwyd Carter Vincent LLP yn 2011 yn dilyn uno cwmnïau Carter Vincent Jones Davis o Fangor a John Bellis & Co. o Benmaenmawr a Llanfairfechan.
Ein nod ydyw cynnig gwasanaethau cyfreithiol am gost resymol i unigolion, busnesau a chyrff eraill. Os oes angen cymorth arnoch hefo mater cyfreithiol beth am gysylltu â ni i weld os gallwn eich helpu.