Ein Cyfreithwyr

Carla Forfar

Carla ForfarCyfraith teulu, trosedd a phrynu a gwerthu eiddo ydyw prif feysydd ymarfer Carla. Mae hi yn arwain ein adrannau teulu a throsedd. Mae ar baneli cyfreithwyr ar ddyletswydd yng ngorsaf yr heddlu a’r llys ynadon. Mae’n gweithio o swyddfeydd Penmaenmawr a Llanfairfechan.

Yn ei hamser hamdden mae Carla yn mwynhau golff a theatr cerddorol.

carla.forfar@cartervincent.co.uk

Iestyn Harris

Iestyn HarrisMae Iestyn yn arwain ein adrannau cleient preifat a thrawsgludo. Yn ogystal mae’n gweithredu ym meysydd cyfreithia sifil a chyflogaeth. Mae’n aelod o Gyfreithwyr ar gyfer yr Henoed a Chymdeithas Cyfraith Amaethyddol. Mae Iestyn yn gweithio o swyddfeydd Bangor a Llanfairfechan.

Mae ei ddiddordebau hamdden yn cynnwys cerdded mynyddoedd a gweithgaredd awyr agored eraill.

iestyn.harris@cartervincent.co.uk

Hugh Davis

Hugh DavisPrif feysydd ymarfer Hugh ydyw cyfraith eiddo, cyfrethia sifil ac ewyllysau a gweinyddu ystadau. Mae hefyd yn delio â materion ym meysydd eiddo deallusol a methdalaeth. Mae Hugh yn mwynhau hwylio a gynt fu’n fynyddwr brwd; bu’n aelod o dîm achub mynydd Llanberis am bron i 40 mlynedd.

Mae’n Notari Cyhoeddus.

hugh.davis@cartervincent.co.uk
www.davis-notary.co.uk

Jade Flanagan

Jade FlanaganYmunodd Jade â Carter Vincent fel cyfreithiwr dan hyfforddiant yn dilyn grȃdd dosbarth cyntaf yn y gyfraith o Brifysgol Bangor. Mae ganddi ddiddordeb yng nghyfraith teulu ac mae hefyd un gweithredi ym meysydd prynu a gwerthu eiddo, ewyllysiau a gweinyddu ystadau.

Yn ei hamser hamdden mae Jade yn mwynhau cadw yn heini a phobi, gan gynnwys pobi cacennau i’r swyddfa!

jade@cartervincent.co.uk

Jennifer Brooksbank

Jennifer Brooksbank Ymunodd Jennifer a Carter Vincent ym mis Mawrth 2018 ac mae’n gweithio yn bennaf o swyddfa Penmaenmawr. Mae wedi gweithio yn y gorffenol i gwmni cyfreithwyr cenedlaethol yng Nghanolbarth Lloegr lle bu’n ymdrin a materion cyfraith yswiriant. Ei phrif meysydd ymarfer ydyw gwaith Cleientiaid Preifat a Chyfreitha Sifil.

Mae Jennifer yn aelod frwd o Gôr y Gwragedd Milwrol.

jennifer@cartervincent.co.uk

Aron Gwyn Williams

Aron Gwyn WilliamsGraddiodd Aron hefo graddau mewn Hanes a’r Gyfraith (dosbarth gyntaf) o Brifysgol Bangor cyn cwblhau’r Cwrs Ymarfer Cyfreithiol a gradd meistr yn y gyfraith, busnes a rheolaeth o Brifysgol y Gyfraith, yng Nghaer.

Cyn cychwyn fel Cyfreithiwr dan hyfforddiant bu’n gweithio fel cynorthwyydd i gwmni cyfreithwyr rhyngwladol yng Nghaerdydd, lle bu’n ymdrin ag amrywiaeth o waith masnachol. Wedi cwblhau ei gytundeb hyfforddiant hefo Carter Vincent a chymhwyso fel cyfreithiwr mae Aron yn gweithredu ym meysydd Cyfraith Eiddo. Profiant ac Ewyllysiau, Teulu a Chyfreithia Sifil.

Mae Aron yn mwynhau gwylio pêl-droed a rygbi, a chymdeithasu, yn ei amser hamdden.

aron@cartervincent.co.uk

Wrth barhau i ddefnyddio'r wefan, rydych yn cytuno i'r defnydd o cwcis. Mwy o wybodaeth

The cookie settings on this website are set to "allow cookies" to give you the best browsing experience possible. If you continue to use this website without changing your cookie settings or you click "Accept" below then you are consenting to this.

Close