{"id":18,"date":"2015-07-22T20:26:01","date_gmt":"2015-07-22T20:26:01","guid":{"rendered":"http:\/\/cartervincent.co.uk.gridhosted.co.uk\/?page_id=18"},"modified":"2024-08-19T21:27:41","modified_gmt":"2024-08-19T20:27:41","slug":"amodau-telerau-terms-of-business","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/www.cartervincent.co.uk\/cy\/amodau-telerau-terms-of-business\/","title":{"rendered":"Amodau a Thelerau"},"content":{"rendered":"<p><\/p>\n<h3>Ein nod<\/h3>\n<p>Ein nod yw cynnig gwasanaeth cyfreithiol o ansawdd i gleientiaid am gost teg. Nodwn yn y daflen hon ar ba sail y byddwn yn darparu ein gwasanaethau proffesiynol.<\/p>\n<h3>Ein ymrwymiad i chwi<\/h3>\n<ul>\n<li>Fe wnawn eich diweddaru yngl\u0177n \u0203 chynnydd yn eich mater yn rheolaidd, ar adegau y cytunwyd arnynt neu yn dilyn digwyddiadau a gytunwyd.<\/li>\n<li>Byddwn yn cyfathrebu \u00e2 chi mewn iaith glir.<\/li>\n<li>Byddwn yn esbonio i chi ar lafar neu&#8217;n ysgrifenedig y gwaith sydd angen ei wneud wrth i&#8217;ch mater mynd yn ei flaen.<\/li>\n<li>Byddwn yn eich hysbysu o gost eich mater ar adegau y cytunwyd arnynt.<\/li>\n<li>Byddwn yn rhoi&#8217;r wybodaeth ddiweddaraf i chi ynghylch a yw&#8217;r canlyniadau tebygol yn dal i gyfiawnhau&#8217;r costau a&#8217;r risgiau tebygol sy&#8217;n gysylltiedig \u00e2&#8217;ch mater pryd bynnag y mae newid perthnasol mewn amgylchiadau.<\/li>\n<li>Byddwn yn rhoi amcangyfrif o faint o amser fydd yn ei gymeryd i gyflawni y gwaith neu ran penodol ohono.<\/li>\n<li>Byddwn yn parhau i adolygu a oes dulliau eraill i ariannu eich mater.<\/li>\n<\/ul>\n<h3>Eich ymrwymiad i ni<\/h3>\n<ul>\n<li>Byddwch yn darparu cyfarwyddiadau eglur a chywir<\/li>\n<li>Byddwch yn darparu umrhyw ddogfennau sydd eu hangen yn brydlon<\/li>\n<li>Byddwch yn cadw unrhyw ddogfennau sydd angen eu datgelu yn ddiogel<\/li>\n<li>\u2018Rydych yn cytuno i dalu ein anfonebau o fewn 28 niwrnod (oni chytunir yn wahanol)<\/li>\n<\/ul>\n<h3>Oriau busnes<\/h3>\n<p>Fel arfer mae ein swyddfeydd ar agor o 9:00 y.b. i 5:00 y.p. o ddydd Llun i ddydd Iau; ac o 9:00 y.b. i 4:00 y.p. ar ddydd Gwener. Mae ein swyddfeydd Penmaenmawr a Llanfairfechan yn cau rhwng 1:00 y.p. a 2:00 y.p. Gellir trefnu apwyntiadau ar adegau eraill os oes angen.<\/p>\n<h3>Yswiriant Indemniad Proffesiynol<\/h3>\n<p>Mae gennym yswiriant indemniad proffesiynol ar gyfer hawliadau yn erbyn y cwmni. Pe dymunir fe wnawn ddarparu manylion ein yswiriwr indemniad proffesiynol, gan gynnwys manylion cyswllt, i chwi.<\/p>\n<p>Uchafswm ein atebolrwydd i chwi yn y mater hwn fydd \u00a33 miliwn gan gynnwys ll\u00f4g a chostau, oni chytunir neu bennir uchafswm gwahanol yn ein llythyr yn cadarnhau cyfarwyddiadau. Os am drafod amrywiad i\u2019r uchafswm hwn yna cysylltwch \u0203\u2019r person sydd yn gyfrifol am eich achos. Gall cytuno amrywiad i uchafswm ein atebolrwydd arwain at gynnydd yng nghost eich achos.<\/p>\n<p>Ni fyddwn yn gyfrifol am unrhyw gostau na cholledion anuniongyrchol, eithriadol, na iawndal am golled elw neu cyfle, na iawndal er esiampl.<\/p>\n<p>Mae Carter Vincent LLP yn bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig. Golyga hyn nad ydyw yr aelodau unigol yn gyfrifol am unrhyw weithredoedd neu ddiffyg gweithredu ar ran y cwmni, oni bai fod y gyfraith yn pennu yn wahanol. Nid yw hyn yn cyfyngu ar atebolrwydd y cwmni am weithredoedd neu ddiffyg gweithredu gan ei aelodau.<\/p>\n<p>Ni chawn cyfyngu ein atebolrwydd ond i\u2019r graddau mae\u2019r gyfraith yn caniatau; felly ni chawn gyfyngu ar ein atebolrwydd am achosion o esgeulusdod sydd yn achosi marwolaeth neu anaf personol.<\/p>\n<p>Gofynwch os ydych am eglurhad pellach o\u2019r amodau uchod.<\/p>\n<h3>Derbyn a thalu arian<\/h3>\n<p>Nid ydym yn derbyn taliadau mewn arian parod am fwy na \u00a3500. Os byddwch yn ceisio osgoi y polisi hwn drwy dalu arian yn uniongyrchol i\u2019n cyfrif yna cadwn yr hawl i godi t\u0203l yn adlewyrchu y gost o ymchwilio i darddiad yr arian a dalwyd.<\/p>\n<p>Bydd arian sy&#8217;n ddyledus i chi gennym ni yn cael ei dalu drwy siec neu drosglwyddiad banc, ond nid mewn arian parod, ac ni fydd yn daladwy i drydydd parti.<\/p>\n<h3>Bancio<\/h3>\n<p>\u2018Rydym yn dal arian cleientydd ym Manc Lloyds CCC (a reoleiddit gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol). Ni fyddwn yn gyfrifol pe bai Banc Lloyds yn methu ad-dalu adneuon yn llawn; ond os ydych yn unigolyn (neu fusnes bach) efallai byddwch yn gymwys i dderbyn iawndal gan y Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol (\u2018Financial Services Compensation Scheme\u2019) o hyd at \u00a385,000. Diffinir busnes bach at ddibennion y Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol yn ol adrannau 382 i 385 o Ddeddf Cwmniau 2006. Ni fydd cwmniau mwy yn gymwys am iawndal dan y cynllun hwn.<\/p>\n<p>Noder bod yr uchafswm o iawndal o \u00a385,000 ar gyfer yr holl adneuon sydd gan rywun yn y sefydlaid ac nid ar gyfer bob adnau neu gyfrif unigol.<\/p>\n<h3>Cyberdroseddu a thwyll ebyst<\/h3>\n<p>Mae cynnydd yn achosion o cyberdroseddu a thwyll trwy ebyst. Byddwn ond yn darparu ein manylion banc mwen llythyr hefo ein penllythyr arno, dogfen wedi ei amgau hefo\u2019r cyfryw lythyr neu trwy ebost. Bydd unhryw ebost gennym o\u2019n cyfeiriad parth ac yn y ffurf <strong>enw@cartervincent.co.uk<\/strong>. Bydd ei safle w\u00ea wastad yn <strong>www.cartervincent.co.uk<\/strong>. Os byddwch yn derbyn ebost sydd yn honi ei fod wedi ei anfon gennym ni ond nad ydyw yn y ffurf uchod neu os cyfeirir chwi i safle w\u00ea sydd ddim yn cyfateb a\u2019r cyferiad uchod yna cysylltwch \u00e2 ni os gwelwch yn dda.<br \/>\n<strong>Cyn trosglwyddo arain i\u2019n cyfrif gofynwn i chwi gysylltu \u00e2\u2019r person \u2018rydych yn delio a nhw fel arfer neu ein adran cyfrifon i wirio ein manylion banc.<\/strong><\/p>\n<h3>Rheolau Proffesiynol<\/h3>\n<p>Awdurdodir a rheoleiddir Carter Vincent LLP gan Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr (\u2018SRA\u2019) o The Cube, 199 Wharfside Street, Birmingham B1 1RN; ff\u00f4n: 0370 606 2555. Mae&#8217;r rheolau proffesiynol sy&#8217;n ymwneud \u00e2 chwmn\u00efau cyfreithwyr, gan gynnwys y C\u00f4d Ymddygiad, i\u2019w weld ar wefan yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr: <a href=\"http:\/\/www.sra.org.uk\">www.sra.org.uk<\/a>.<\/p>\n<h3>Ein Biliau<\/h3>\n<p>\u2018Rydych yn gyfrifol am dalu eich costau cyfreithiol yn unol \u0203\u2019r amodau a fanylir yn ein llythyr yn cadarnhu cyfarwyddiadau. Mae\u2019n debyg y byddwn wedi trafod hyn hefo chwi yn ein cyfarfod cyntaf.<\/p>\n<p>Fel arfer disgwylir i chwi dalu ein bil o fewn 28 niwrnod o\u2019i dderbyn. Gallwn ychwanegu ll\u00f4g ar unrhyw fil sydd yn or-ddyledus ar gyfradd o 4% yn uwch na chyfradd benthyg sylfaenol Banc Lloyds ccc.<\/p>\n<p>Efallai byddwn yn gwrthod gweithredu ymhellach oni thelir ein bil o fewn 28 niwrnod neu os anwybyddir cais rhesymol am arian ar gownt ein costau.<\/p>\n<p>Mae gennych yr hawl i herio neu gwyno am ein biliau; am fanylion o\u2019ch halwiau i gwyno am fil gweler yr adran \u2018Cwynion\u2019 isod.<\/p>\n<p>Mae gennych yr hawl dan Rhan III o Ddeddf Cyfreithwyr 1974 i wneud cais i\u2019r ll\u0177s i asesu ein bil o fewn un mis o\u2019i dderbyn. Mae angen caniatad y llys i wneud cais ar \u00f4l un mis ond o fewn 12 mis o dderbyn y bil. Fel arfer ni fydd hawl i wneud cais o\u2019r fath:<\/p>\n<ul>\n<li>ar \u00f4l 12 mis o dderbyn y bil<\/li>\n<li>os cafwyd collfarniad am y swm sydd yn ddyledus dan y bil<\/li>\n<li>os talwyd y bil, hyd yn oed pe talwyd o fewn 12 mis.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Mae gennym yr hawl i gadw eich holl ddogfennau tra bod arian yn ddyledus i ni gennych.<\/p>\n<h3>Diogelu Data<\/h3>\n<p>Rydym yn defnyddio&#8217;r wybodaeth a drosglwyddir gennych yn bennaf ar gyfer darparu gwasanaethau cyfreithiol i chwi ac at ddibenion cysylltiedig gan gynnwys:<\/p>\n<ul>\n<li>diweddaru a gwella cofnodion cleientiaid<\/li>\n<li>dadansoddi i&#8217;n helpu i reoli ein practis<\/li>\n<li>ffurflenni statudol<\/li>\n<li>cydymffurfiad cyfreithiol a rheoliadol<\/li>\n<\/ul>\n<p>Mae ein defnydd o&#8217;r wybodaeth yn amodol ar eich cyfarwyddiadau, Deddf Diogelu Data 1998 yngh\u0177d \u0203 ein dyletswydd o gyfrinachedd. Noder y gall fod yn ofynol i ni wrth gweithredu ar eich rhan roi gwybodaeth i drydydd parti megis tystion arbenigol a chynghorwyr proffesiynol eraill. Mae gennych hawl mynediad i&#8217;r data personol a gedwir gennym amdanoch chwi o dan y ddeddfwriaeth diogelu data.<\/p>\n<p>Mae ein Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data i\u2019w weld ar ein safle \u0175e ond darperir copi caled o\u2019r polisi os dymunir.<\/p>\n<h3>Storio dogfennau<\/h3>\n<p>Ar \u00f4l cwblhau&#8217;r gwaith, mae gennym hawl i gadw eich holl bapurau a dogfennau tra bod arian yn ddyledus i ni ar gyfer ein taliadau a threuliau.<\/p>\n<p>Byddwn yn cadw eich ffeil o bapurau am o leiaf 7 mlynedd. Cedwir y ffeil ar y dealltwriaeth y gellir ei ddinistrio ar \u00f4l y cyfnod o 7 mlynedd. Ni fyddwn yn dinistrio unrhyw ddogfennau megis ewyllysiau a gweithredoedd ac unrhyw ddogfennau \u2018rydych yn gofyn i ni eu cadw yn ddiogel. Nid ydym yn codi t\u0203l am gadw eich dogfennau yn ddiogel oni bai ein bod yn eich hysbysu ymlaen llaw ein bod yn codi t\u0203l yn y dyfodol.<\/p>\n<p>Os byddwn yn adfer unrhyw ddogfennau o ein storfa mewn perthynas \u00e2g achos ni fyddwn fel arfer yn codi t\u00e2l am eu hadfer. Fodd bynnag, mae&#8217;n bosib y byddwn yn codi t\u00e2l yn seiliedig ar yr amser a dreulir i adfer eich papurau ar eich cais. Efallai y byddwn hefyd yn codi t\u00e2l ar gyfer darllen, gohebiaeth neu waith arall sy&#8217;n angenrheidiol i gydymffurfio \u00e2&#8217;ch cyfarwyddiadau.<\/p>\n<h3>Atal gwyngalchu arian ac ariannu terfysgiaeth<\/h3>\n<p>Mae dyletswydd cyfreithiol arnom i gael prawf digonol o\u2019ch hunaniaeth a weithiau pobl sydd yn gysylltiedig \u0203 chwi. Mae angen un eitem hefo ffotograff ohonoch, e.e. trwydded yrru, pasport neu drwydded gwn; ac un eitem yn profi eich cyfeiriad, e.e. bil gwasanaeth cyhoeddus, datganiad banc neu ohebiaeth swyddogol arall heb fod yn fwy na 3 mis oed. Efallai y byddwn yn trefnu i gynnal gwiriad electronig o&#8217;ch hunaniaeth os ydym o&#8217;r farn y bydd arbediad o amser a chost trwy wneud hynny. Byddwch yn gyfrifol am y gost o unrhyw chwiliad o&#8217;r fath. Os yw&#8217;r swm yn fwy na \u00a310 yn cynnwys TAW, byddwn yn ymofyn eich cydsyniad ymlaen llaw.<\/p>\n<p>Mae cyfreithwyr dan rwymedigaeth proffesiynol a chyfreithiol i gadw materion eu cleientiaid yn gyfrinachol. Mae hyn yn amodol fodd bynnag ar eithriad statudol: mae deddfwriaeth ar gwyngalchu arian ac ariannu terfysgiaeth wedi gosod cyfreithwyr dan ddyletswydd gyfreithiol mewn rhai amgylchiadau i ddatgelu gwybodaeth i&#8217;r Asiantaeth Troseddau Cenedlaethol. Os yw cyfreithiwr yn gwybod neu&#8217;n amau bod trafodiad ar ran cleient yn cynnwys gwyngalchu arian, gall fod yn ofynnol i&#8217;r cyfreithiwr wneud datgeliad. Os, tra yn gweithredu ar eich rhan, mae&#8217;n angenrheidiol i wneud datgeliad o&#8217;r fath, efallai na fyddwn yn gallu rhoi gwybod i chwi ei fod wedi ei wneud, neu y rhesymau drosto, oherwydd bod y gyfraith yn ein gwahardd rhag eich hysbysu. Pan fydd y gyfraith yn caniat\u00e1u i ni, byddwn yn rhoi gwybod i chwi am unrhyw broblem gwyngalchu arian posibl ac yn egluro pa gamau y gallai fod angen i ni eu cymryd.<\/p>\n<h3>Archwiliadau ac allyrru gwaith<\/h3>\n<p>Gall ein cwmni fod yn destun gwiriadau, archwilio neu ansawdd gan gwmn\u00efau neu sefydliadau allanol, megis yr SRA, ein cyfrifyddion, neu gyrff achredydu. Efallai y byddwn hefyd yn trefnu i bobl tu allan ein cwmni gyflawni rhai agweddau o\u2019r gwaith. Gall hyn gynnwys, er enghraifft, teipio neu lungop\u00efo neu darparu biliau, neu ymchwil a pharatoi i gynorthwyo gyda&#8217;ch mater. Gall gwybodaeth ar eich ffeil felly fod ym meddiant trydydd parti. Byddwn bob amser yn ceisio cael cytundeb cyfrinachedd gyda&#8217;r trydydd parti.<\/p>\n<p>Os ydych yn gwrthwynebu datgelu eich papurau i archwilwyr allanol cysylltwch \u0203 Iestyn Harris.<\/p>\n<h3>Terfynu cyfarwyddiadau<\/h3>\n<p>Cewch ddirwyn a\u2019ch cyfarwyddiadau i ben ar unrhyw adeg, ond bydd gennym yr hawl i gadw eich holl bapurau a dogfennau tra bod arian yn ddyledus i ni ar gyfer ein taliadau a threuliau. Os ar unrhyw adeg nid ydych yn dymuno i ni barhau i wneud gwaith a \/ neu fynd i gostau a threuliau ar eich rhan, rhaid i chi ddweud hynny wrthym yn glir yn ysgrifenedig.<\/p>\n<p>Os byddwn yn penderfynu rhoi&#8217;r gorau i gweithredu ar eich rhan, er enghraifft os nad ydych yn talu bil neu yn anwybyddu cais am daliad ar gyfrif, byddwn yn egluro y rheswm i chwi ac yn rhoi rhybudd ysgrifenedig i chwi. Byddwch yn gyfrifol am yr holl gostau hyd at y pwynt hwnnw.<\/p>\n<h3>Gwasanaethau ariannol a chontractau yswiriant<\/h3>\n<p>Nid ydym yn cael eu hawdurdodi gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol. Fodd bynnag, yr ydym yn cael ein cynnwys ar y gofrestr a gedwir gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol fel y gallwn cynnig gwasanaeth cyfryngu yswiriant, sydd yn golygu cynghori ar, gwerthu a gweinyddu contractau yswiriant. Rheoleiddir y ran hyn o\u2019n gwasanaeth gan yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr. Gellir gweld y gofrestr trwy wefan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol yn <a href=\"http:\/\/www.fca.org.uk\/register\">www.fca.org.uk\/register<\/a>.<\/p>\n<p>Mae <a href=\"http:\/\/www.lawsociety.org.uk\/\">Cymdeithas y Gyfraith<\/a> Lloegr a Chymru yn gorff penodedig o dan Ddeddf Marchnadoedd a Gwasanaethau Ariannol 2000. Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr ydyw braich rheoleiddio annibynnol Cymdeithas y Gyfraith. Ombwdsmon y Gyfraith sydd yn delio a chwynion yn erbyn cufreithwyr. Os ydych yn anfodlon \u0203g unrhyw gyngor ar yswiriant yr ydych yn ei dderbyn yna dylech gysylltu \u0203 Ombwdsmon y Gyfraith.<\/p>\n<h3>Cwynion<\/h3>\n<p>Mae Carter Vincent wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau cyfreithiol a gofal cleientiaid o ansawdd uchel. Os ydych yn anfodlon \u00e2g unrhyw agwedd o\u2019r gwasanaeth a gawsoch neu \u00e2 bil, cysylltwch \u00e2 Iestyn Harris ar 01248 362551 (<a href=\"mailto:iestyn.harris@cartervincent.co.uk\">iestyn.harris@cartervincent.co.uk<\/a>) neu drwy&#8217;r post yn ein swyddfa ym Mangor. Mae gennym bolisi ynghl\u0177n \u0203 sut yr ydym yn ymdrin \u00e2 chwynion sydd ar gael yn ein holl swyddfeydd. Mae gennym wyth wythnos i ystyried eich cwyn. Os nad ydym wedi datrys eich cwyn o fewn yr amser hwn neu os nad ydych yn fodlon hefo ein penderfyniad gallwch gwyno wrth Ombwdsmon y Gyfraith.<\/p>\n<p>Dyma fanylion cyswllt Ombwdsmon y Gyfraith:<br \/>\nP O Box 6806 Wolverhampton,WV1 9WJ<br \/>\n0300 555 0333 \u2013 o 8:30 yb hyd at 5:30 yp<br \/>\n<a href=\"mailto:enquiries@legalombudsman.org.uk\">enquiries@legalombudsman.org.uk<\/a><br \/>\n<a href=\"http:\/\/www.legalombudsman.org.uk\">www.legalombudsman.org.uk<\/a><\/p>\n<p>Fel arfer, rhaid cyflwyno cwyn i&#8217;r Ombwdsmon o fewn chwe mis o dderbyn ymateb ysgrifenedig terfynol gennym ni neu o fewn 6 mlynedd i&#8217;r weithred neu esgeulustod \u2018rydych am gwyno amdano (neu o fewn 3 mlynedd o\u2019r dyddiad pan ddaethoch yn ymwybodol o achos y gwyn, os y tu allan i\u2019r cyfnod hwn). Yn gyffredinol bydd yr Ombwdsmon ond yn ystyried cwynion yn ymwneud \u0203 gweithred neu ddiffyg gwithredu a ddigwyddodd ar \u00f4l 5 Hydref 2010.<\/p>\n<p>Mae Ombwdsmon y Gyfraith ond yn delio a chwynion gan unigolion neu fusnesau bychain. Felly, ni fydd gan pob cleient yr hawl i wneud cwyn i\u2019r Ombwdsmon, e.e. y rhan fwyaf o fusnesau, elusenau neu glybiau \u0203g incwm o \u00a31m neu fwy y flwyddyn, ac ymddiriedolaethau \u0203g asedau gwerth \u00a31m neu fwy. Nid yw hyn yn cyfyngu ar hawl cleient i wneud cwyn i ni yn uniongyrchol am y gwasanaeth a dderbyniwyd neu am fil.<\/p>\n<h3>Hawl i ganslo<\/h3>\n<p>Mae gennych yr hawl i ganslo y cytundeb rhyngom o fewn 14 niwrnod heb rhoi rheswm. Mae\u2019r cyfnod o 14 niwrnod yn cychwyn ar ddyddiad ein cyfarfod cyntaf neu, os yn wahanol, y dyddiad pan wnaethoch roi cyfarwyddiadau i ni.<\/p>\n<p>Er mwyn canslo y cytundeb rhaid i chwi ein hysbysu yn ysgrifenedig o\u2019ch penderfyniad i ganslo (e.g.llythyr trwy\u2019r post, ffacs neu ebost). Mae\u2019n ddigonol eich bod wedi gyrru yr hysbysiad o\u2019ch penderfyniad i ganslo o fewn y cyfnod o 14 niwrnod.<\/p>\n<h3>Canlyniadau Canslo<\/h3>\n<p>Byddwn yn ad-dalu umrhyw arian a dalwyd gennych i ni o fewn 14 niwrnod o ddyddiad eich hysbysiad yn canslo ein cytundeb.<\/p>\n<p>Os ydych yn ein cyfarwyddo i gychwyn y gwaith yn ystod y cyfnod cychwynol o 14 niwrnod yna byddwch yn gyfrifol am gost y gwaith a wnaed yn y cyfnod hwnnw tan i chwi ein hysbysu o\u2019ch penderfyniad i ganslo y cytundeb.<\/p>\n<h3>Cydraddoldeb ac amrywiaeth<\/h3>\n<p>\u2018Rydym yn hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeh wrth ymwneud \u0203\u2019n cleientydd, partion eraill a\u2019n gweithwyr. Cysylltwch \u0203 ni os ydych am weld ein polisi cydraddoldeb ac amrywiaeth.<\/p>\n<h3>Y gyfraith perthnasol<\/h3>\n<p>Ymdrinir \u0203g unrhyw achos cyfreithiol fydd yn codi rhyngom yn \u00f4l cyfraith Lloegr a Chymru ac yn llysoedd Lloegr a Chymru.<\/p>\n<h3>Cyfarwyddiadau yn y dyfodol<\/h3>\n<p>Oni chytunir yn wahanol bydd yr amodau a thelerau hyn yn rheoli unrhyw gyfarwyddiadau eraill gennych yn y mater hwn neu mewn mater arall.<\/p>\n<div style=\"margin-top: 60px;\">\n<p><em>Carter Vincent LLP: partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig a gofrestrwyd yn Nh\u0177&#8217;r Cwmn\u00efau (no.OC367337) ac sydd \u00e2&#8217;i swyddfa gofrestredig yn The Port House, Porth Penrhyn, Bangor, Gwynedd LL57 4HN ac a awdurdodwyd a rheoleiddiwyd gan yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr (SRA no. 566521). Mae rhestr o&#8217;r aelodau ar gael yn ein swyddfeydd. <\/em><\/p>\n<p>Mae unrhyw gyfeiriad at bartner yn cynnwys cyfeiriad at aelod neu gyfarwyddwr.<\/p>\n<p><em style=\"font-size: 14px;\">Rhif TAW: 125450341<\/em><\/p>\n<\/div>\n<p><\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Ein nod Ein nod yw cynnig gwasanaeth cyfreithiol o ansawdd i gleientiaid am gost teg. Nodwn yn y daflen hon ar ba sail y byddwn yn darparu ein gwasanaethau proffesiynol. Ein ymrwymiad i chwi Fe wnawn eich diweddaru yngl\u0177n \u0203&hellip; <\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"open","template":"","meta":{"footnotes":""},"class_list":["post-18","page","type-page","status-publish","hentry"],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.5 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Amodau a Thelerau - Carter Vincent Cyfreithwyr LLP<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/www.cartervincent.co.uk\/amodau-telerau-terms-of-business\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"[:cy]Amodau a Thelerau[:en]Terms of Business[:] - Carter Vincent Cyfreithwyr LLP\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Ein nod Ein nod yw cynnig gwasanaeth cyfreithiol o ansawdd i gleientiaid am gost teg. Nodwn yn y daflen hon ar ba sail y byddwn yn darparu ein gwasanaethau proffesiynol. Ein ymrwymiad i chwi Fe wnawn eich diweddaru yngl\u0177n \u0203&hellip;\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/www.cartervincent.co.uk\/amodau-telerau-terms-of-business\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Carter Vincent Cyfreithwyr LLP\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2024-08-19T20:27:41+00:00\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"27 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\\\/\\\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.cartervincent.co.uk\\\/amodau-telerau-terms-of-business\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/www.cartervincent.co.uk\\\/amodau-telerau-terms-of-business\\\/\",\"name\":\"[:cy]Amodau a Thelerau[:en]Terms of Business[:] - Carter Vincent Cyfreithwyr LLP\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.cartervincent.co.uk\\\/#website\"},\"datePublished\":\"2015-07-22T20:26:01+00:00\",\"dateModified\":\"2024-08-19T20:27:41+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.cartervincent.co.uk\\\/amodau-telerau-terms-of-business\\\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/www.cartervincent.co.uk\\\/amodau-telerau-terms-of-business\\\/\"]}]},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.cartervincent.co.uk\\\/amodau-telerau-terms-of-business\\\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\\\/\\\/www.cartervincent.co.uk\\\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Terms of Business\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.cartervincent.co.uk\\\/#website\",\"url\":\"https:\\\/\\\/www.cartervincent.co.uk\\\/\",\"name\":\"Carter Vincent Cyfreithwyr LLP\",\"description\":\"Atebion cyfreithiol yn lleol\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.cartervincent.co.uk\\\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\\\/\\\/www.cartervincent.co.uk\\\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.cartervincent.co.uk\\\/#organization\",\"name\":\"Carter Vincent LLP\",\"url\":\"https:\\\/\\\/www.cartervincent.co.uk\\\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.cartervincent.co.uk\\\/#\\\/schema\\\/logo\\\/image\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/www.cartervincent.co.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2015\\\/07\\\/carter-vincent-logo.png\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/www.cartervincent.co.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2015\\\/07\\\/carter-vincent-logo.png\",\"width\":166,\"height\":90,\"caption\":\"Carter Vincent LLP\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.cartervincent.co.uk\\\/#\\\/schema\\\/logo\\\/image\\\/\"}}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"[:cy]Amodau a Thelerau[:en]Terms of Business[:] - Carter Vincent Cyfreithwyr LLP","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/www.cartervincent.co.uk\/amodau-telerau-terms-of-business\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"[:cy]Amodau a Thelerau[:en]Terms of Business[:] - Carter Vincent Cyfreithwyr LLP","og_description":"Ein nod Ein nod yw cynnig gwasanaeth cyfreithiol o ansawdd i gleientiaid am gost teg. Nodwn yn y daflen hon ar ba sail y byddwn yn darparu ein gwasanaethau proffesiynol. Ein ymrwymiad i chwi Fe wnawn eich diweddaru yngl\u0177n \u0203&hellip;","og_url":"https:\/\/www.cartervincent.co.uk\/amodau-telerau-terms-of-business\/","og_site_name":"Carter Vincent Cyfreithwyr LLP","article_modified_time":"2024-08-19T20:27:41+00:00","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Est. reading time":"27 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/www.cartervincent.co.uk\/amodau-telerau-terms-of-business\/","url":"https:\/\/www.cartervincent.co.uk\/amodau-telerau-terms-of-business\/","name":"[:cy]Amodau a Thelerau[:en]Terms of Business[:] - Carter Vincent Cyfreithwyr LLP","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.cartervincent.co.uk\/#website"},"datePublished":"2015-07-22T20:26:01+00:00","dateModified":"2024-08-19T20:27:41+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/www.cartervincent.co.uk\/amodau-telerau-terms-of-business\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/www.cartervincent.co.uk\/amodau-telerau-terms-of-business\/"]}]},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/www.cartervincent.co.uk\/amodau-telerau-terms-of-business\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/www.cartervincent.co.uk\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Terms of Business"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/www.cartervincent.co.uk\/#website","url":"https:\/\/www.cartervincent.co.uk\/","name":"Carter Vincent Cyfreithwyr LLP","description":"Atebion cyfreithiol yn lleol","publisher":{"@id":"https:\/\/www.cartervincent.co.uk\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/www.cartervincent.co.uk\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/www.cartervincent.co.uk\/#organization","name":"Carter Vincent LLP","url":"https:\/\/www.cartervincent.co.uk\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/www.cartervincent.co.uk\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/www.cartervincent.co.uk\/wp-content\/uploads\/2015\/07\/carter-vincent-logo.png","contentUrl":"https:\/\/www.cartervincent.co.uk\/wp-content\/uploads\/2015\/07\/carter-vincent-logo.png","width":166,"height":90,"caption":"Carter Vincent LLP"},"image":{"@id":"https:\/\/www.cartervincent.co.uk\/#\/schema\/logo\/image\/"}}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.cartervincent.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/18","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.cartervincent.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.cartervincent.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.cartervincent.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.cartervincent.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=18"}],"version-history":[{"count":77,"href":"https:\/\/www.cartervincent.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/18\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1143,"href":"https:\/\/www.cartervincent.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/18\/revisions\/1143"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.cartervincent.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=18"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}