Amodau a Thelerau

Ein nod

Ein nod yw cynnig gwasanaeth cyfreithiol o ansawdd i gleientiaid am gost teg. Nodwn yn y daflen hon ar ba sail y byddwn yn darparu ein gwasanaethau proffesiynol.

Ein ymrwymiad i chwi

  • Fe wnawn eich diweddaru ynglŷn ȃ chynnydd yn eich mater yn rheolaidd, ar adegau y cytunwyd arnynt neu yn dilyn digwyddiadau a gytunwyd.
  • Byddwn yn cyfathrebu â chi mewn iaith glir.
  • Byddwn yn esbonio i chi ar lafar neu’n ysgrifenedig y gwaith sydd angen ei wneud wrth i’ch mater mynd yn ei flaen.
  • Byddwn yn eich hysbysu o gost eich mater ar adegau y cytunwyd arnynt.
  • Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi ynghylch a yw’r canlyniadau tebygol yn dal i gyfiawnhau’r costau a’r risgiau tebygol sy’n gysylltiedig â’ch mater pryd bynnag y mae newid perthnasol mewn amgylchiadau.
  • Byddwn yn rhoi amcangyfrif o faint o amser fydd yn ei gymeryd i gyflawni y gwaith neu ran penodol ohono.
  • Byddwn yn parhau i adolygu a oes dulliau eraill i ariannu eich mater.

Eich ymrwymiad i ni

  • Byddwch yn darparu cyfarwyddiadau eglur a chywir
  • Byddwch yn darparu umrhyw ddogfennau sydd eu hangen yn brydlon
  • Byddwch yn cadw unrhyw ddogfennau sydd angen eu datgelu yn ddiogel
  • ‘Rydych yn cytuno i dalu ein anfonebau o fewn 28 niwrnod (oni chytunir yn wahanol)

Oriau busnes

Fel arfer mae ein swyddfeydd ar agor o 9:00 y.b. i 5:00 y.p. o ddydd Llun i ddydd Iau; ac o 9:00 y.b. i 4:00 y.p. ar ddydd Gwener. Mae ein swyddfeydd Penmaenmawr a Llanfairfechan yn cau rhwng 1:00 y.p. a 2:00 y.p. Gellir trefnu apwyntiadau ar adegau eraill os oes angen.

Yswiriant Indemniad Proffesiynol

Mae gennym yswiriant indemniad proffesiynol ar gyfer hawliadau yn erbyn y cwmni. Pe dymunir fe wnawn ddarparu manylion ein yswiriwr indemniad proffesiynol, gan gynnwys manylion cyswllt, i chwi.

Uchafswm ein atebolrwydd i chwi yn y mater hwn fydd £3 miliwn gan gynnwys llôg a chostau, oni chytunir neu bennir uchafswm gwahanol yn ein llythyr yn cadarnhau cyfarwyddiadau. Os am drafod amrywiad i’r uchafswm hwn yna cysylltwch ȃ’r person sydd yn gyfrifol am eich achos. Gall cytuno amrywiad i uchafswm ein atebolrwydd arwain at gynnydd yng nghost eich achos.

Ni fyddwn yn gyfrifol am unrhyw gostau na cholledion anuniongyrchol, eithriadol, na iawndal am golled elw neu cyfle, na iawndal er esiampl.

Mae Carter Vincent LLP yn bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig. Golyga hyn nad ydyw yr aelodau unigol yn gyfrifol am unrhyw weithredoedd neu ddiffyg gweithredu ar ran y cwmni, oni bai fod y gyfraith yn pennu yn wahanol. Nid yw hyn yn cyfyngu ar atebolrwydd y cwmni am weithredoedd neu ddiffyg gweithredu gan ei aelodau.

Ni chawn cyfyngu ein atebolrwydd ond i’r graddau mae’r gyfraith yn caniatau; felly ni chawn gyfyngu ar ein atebolrwydd am achosion o esgeulusdod sydd yn achosi marwolaeth neu anaf personol.

Gofynwch os ydych am eglurhad pellach o’r amodau uchod.

Derbyn a thalu arian

Nid ydym yn derbyn taliadau mewn arian parod am fwy na £500. Os byddwch yn ceisio osgoi y polisi hwn drwy dalu arian yn uniongyrchol i’n cyfrif yna cadwn yr hawl i godi tȃl yn adlewyrchu y gost o ymchwilio i darddiad yr arian a dalwyd.

Bydd arian sy’n ddyledus i chi gennym ni yn cael ei dalu drwy siec neu drosglwyddiad banc, ond nid mewn arian parod, ac ni fydd yn daladwy i drydydd parti.

Bancio

‘Rydym yn dal arian cleientydd ym Manc Lloyds CCC (a reoleiddit gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol). Ni fyddwn yn gyfrifol pe bai Banc Lloyds yn methu ad-dalu adneuon yn llawn; ond os ydych yn unigolyn (neu fusnes bach) efallai byddwch yn gymwys i dderbyn iawndal gan y Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol (‘Financial Services Compensation Scheme’) o hyd at £85,000. Diffinir busnes bach at ddibennion y Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol yn ol adrannau 382 i 385 o Ddeddf Cwmniau 2006. Ni fydd cwmniau mwy yn gymwys am iawndal dan y cynllun hwn.

Noder bod yr uchafswm o iawndal o £85,000 ar gyfer yr holl adneuon sydd gan rywun yn y sefydlaid ac nid ar gyfer bob adnau neu gyfrif unigol.

Cyberdroseddu a thwyll ebyst

Mae cynnydd yn achosion o cyberdroseddu a thwyll trwy ebyst. Byddwn ond yn darparu ein manylion banc mwen llythyr hefo ein penllythyr arno, dogfen wedi ei amgau hefo’r cyfryw lythyr neu trwy ebost. Bydd unhryw ebost gennym o’n cyfeiriad parth ac yn y ffurf enw@cartervincent.co.uk. Bydd ei safle wê wastad yn www.cartervincent.co.uk. Os byddwch yn derbyn ebost sydd yn honi ei fod wedi ei anfon gennym ni ond nad ydyw yn y ffurf uchod neu os cyfeirir chwi i safle wê sydd ddim yn cyfateb a’r cyferiad uchod yna cysylltwch â ni os gwelwch yn dda.
Cyn trosglwyddo arain i’n cyfrif gofynwn i chwi gysylltu â’r person ‘rydych yn delio a nhw fel arfer neu ein adran cyfrifon i wirio ein manylion banc.

Rheolau Proffesiynol

Awdurdodir a rheoleiddir Carter Vincent LLP gan Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr (‘SRA’) o The Cube, 199 Wharfside Street, Birmingham B1 1RN; ffôn: 0370 606 2555. Mae’r rheolau proffesiynol sy’n ymwneud â chwmnïau cyfreithwyr, gan gynnwys y Côd Ymddygiad, i’w weld ar wefan yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr: www.sra.org.uk.

Ein Biliau

‘Rydych yn gyfrifol am dalu eich costau cyfreithiol yn unol ȃ’r amodau a fanylir yn ein llythyr yn cadarnhu cyfarwyddiadau. Mae’n debyg y byddwn wedi trafod hyn hefo chwi yn ein cyfarfod cyntaf.

Fel arfer disgwylir i chwi dalu ein bil o fewn 28 niwrnod o’i dderbyn. Gallwn ychwanegu llôg ar unrhyw fil sydd yn or-ddyledus ar gyfradd o 4% yn uwch na chyfradd benthyg sylfaenol Banc Lloyds ccc.

Efallai byddwn yn gwrthod gweithredu ymhellach oni thelir ein bil o fewn 28 niwrnod neu os anwybyddir cais rhesymol am arian ar gownt ein costau.

Mae gennych yr hawl i herio neu gwyno am ein biliau; am fanylion o’ch halwiau i gwyno am fil gweler yr adran ‘Cwynion’ isod.

Mae gennych yr hawl dan Rhan III o Ddeddf Cyfreithwyr 1974 i wneud cais i’r llŷs i asesu ein bil o fewn un mis o’i dderbyn. Mae angen caniatad y llys i wneud cais ar ôl un mis ond o fewn 12 mis o dderbyn y bil. Fel arfer ni fydd hawl i wneud cais o’r fath:

  • ar ôl 12 mis o dderbyn y bil
  • os cafwyd collfarniad am y swm sydd yn ddyledus dan y bil
  • os talwyd y bil, hyd yn oed pe talwyd o fewn 12 mis.

Mae gennym yr hawl i gadw eich holl ddogfennau tra bod arian yn ddyledus i ni gennych.

Diogelu Data

Rydym yn defnyddio’r wybodaeth a drosglwyddir gennych yn bennaf ar gyfer darparu gwasanaethau cyfreithiol i chwi ac at ddibenion cysylltiedig gan gynnwys:

  • diweddaru a gwella cofnodion cleientiaid
  • dadansoddi i’n helpu i reoli ein practis
  • ffurflenni statudol
  • cydymffurfiad cyfreithiol a rheoliadol

Mae ein defnydd o’r wybodaeth yn amodol ar eich cyfarwyddiadau, Deddf Diogelu Data 1998 ynghŷd ȃ ein dyletswydd o gyfrinachedd. Noder y gall fod yn ofynol i ni wrth gweithredu ar eich rhan roi gwybodaeth i drydydd parti megis tystion arbenigol a chynghorwyr proffesiynol eraill. Mae gennych hawl mynediad i’r data personol a gedwir gennym amdanoch chwi o dan y ddeddfwriaeth diogelu data.

Mae ein Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data i’w weld ar ein safle ŵe ond darperir copi caled o’r polisi os dymunir.

Storio dogfennau

Ar ôl cwblhau’r gwaith, mae gennym hawl i gadw eich holl bapurau a dogfennau tra bod arian yn ddyledus i ni ar gyfer ein taliadau a threuliau.

Byddwn yn cadw eich ffeil o bapurau am o leiaf 7 mlynedd. Cedwir y ffeil ar y dealltwriaeth y gellir ei ddinistrio ar ôl y cyfnod o 7 mlynedd. Ni fyddwn yn dinistrio unrhyw ddogfennau megis ewyllysiau a gweithredoedd ac unrhyw ddogfennau ‘rydych yn gofyn i ni eu cadw yn ddiogel. Nid ydym yn codi tȃl am gadw eich dogfennau yn ddiogel oni bai ein bod yn eich hysbysu ymlaen llaw ein bod yn codi tȃl yn y dyfodol.

Os byddwn yn adfer unrhyw ddogfennau o ein storfa mewn perthynas âg achos ni fyddwn fel arfer yn codi tâl am eu hadfer. Fodd bynnag, mae’n bosib y byddwn yn codi tâl yn seiliedig ar yr amser a dreulir i adfer eich papurau ar eich cais. Efallai y byddwn hefyd yn codi tâl ar gyfer darllen, gohebiaeth neu waith arall sy’n angenrheidiol i gydymffurfio â’ch cyfarwyddiadau.

Atal gwyngalchu arian ac ariannu terfysgiaeth

Mae dyletswydd cyfreithiol arnom i gael prawf digonol o’ch hunaniaeth a weithiau pobl sydd yn gysylltiedig ȃ chwi. Mae angen un eitem hefo ffotograff ohonoch, e.e. trwydded yrru, pasport neu drwydded gwn; ac un eitem yn profi eich cyfeiriad, e.e. bil gwasanaeth cyhoeddus, datganiad banc neu ohebiaeth swyddogol arall heb fod yn fwy na 3 mis oed. Efallai y byddwn yn trefnu i gynnal gwiriad electronig o’ch hunaniaeth os ydym o’r farn y bydd arbediad o amser a chost trwy wneud hynny. Byddwch yn gyfrifol am y gost o unrhyw chwiliad o’r fath. Os yw’r swm yn fwy na £10 yn cynnwys TAW, byddwn yn ymofyn eich cydsyniad ymlaen llaw.

Mae cyfreithwyr dan rwymedigaeth proffesiynol a chyfreithiol i gadw materion eu cleientiaid yn gyfrinachol. Mae hyn yn amodol fodd bynnag ar eithriad statudol: mae deddfwriaeth ar gwyngalchu arian ac ariannu terfysgiaeth wedi gosod cyfreithwyr dan ddyletswydd gyfreithiol mewn rhai amgylchiadau i ddatgelu gwybodaeth i’r Asiantaeth Troseddau Cenedlaethol. Os yw cyfreithiwr yn gwybod neu’n amau bod trafodiad ar ran cleient yn cynnwys gwyngalchu arian, gall fod yn ofynnol i’r cyfreithiwr wneud datgeliad. Os, tra yn gweithredu ar eich rhan, mae’n angenrheidiol i wneud datgeliad o’r fath, efallai na fyddwn yn gallu rhoi gwybod i chwi ei fod wedi ei wneud, neu y rhesymau drosto, oherwydd bod y gyfraith yn ein gwahardd rhag eich hysbysu. Pan fydd y gyfraith yn caniatáu i ni, byddwn yn rhoi gwybod i chwi am unrhyw broblem gwyngalchu arian posibl ac yn egluro pa gamau y gallai fod angen i ni eu cymryd.

Archwiliadau ac allyrru gwaith

Gall ein cwmni fod yn destun gwiriadau, archwilio neu ansawdd gan gwmnïau neu sefydliadau allanol, megis yr SRA, ein cyfrifyddion, neu gyrff achredydu. Efallai y byddwn hefyd yn trefnu i bobl tu allan ein cwmni gyflawni rhai agweddau o’r gwaith. Gall hyn gynnwys, er enghraifft, teipio neu lungopïo neu darparu biliau, neu ymchwil a pharatoi i gynorthwyo gyda’ch mater. Gall gwybodaeth ar eich ffeil felly fod ym meddiant trydydd parti. Byddwn bob amser yn ceisio cael cytundeb cyfrinachedd gyda’r trydydd parti.

Os ydych yn gwrthwynebu datgelu eich papurau i archwilwyr allanol cysylltwch ȃ Iestyn Harris.

Terfynu cyfarwyddiadau

Cewch ddirwyn a’ch cyfarwyddiadau i ben ar unrhyw adeg, ond bydd gennym yr hawl i gadw eich holl bapurau a dogfennau tra bod arian yn ddyledus i ni ar gyfer ein taliadau a threuliau. Os ar unrhyw adeg nid ydych yn dymuno i ni barhau i wneud gwaith a / neu fynd i gostau a threuliau ar eich rhan, rhaid i chi ddweud hynny wrthym yn glir yn ysgrifenedig.

Os byddwn yn penderfynu rhoi’r gorau i gweithredu ar eich rhan, er enghraifft os nad ydych yn talu bil neu yn anwybyddu cais am daliad ar gyfrif, byddwn yn egluro y rheswm i chwi ac yn rhoi rhybudd ysgrifenedig i chwi. Byddwch yn gyfrifol am yr holl gostau hyd at y pwynt hwnnw.

Gwasanaethau ariannol a chontractau yswiriant

Nid ydym yn cael eu hawdurdodi gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol. Fodd bynnag, yr ydym yn cael ein cynnwys ar y gofrestr a gedwir gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol fel y gallwn cynnig gwasanaeth cyfryngu yswiriant, sydd yn golygu cynghori ar, gwerthu a gweinyddu contractau yswiriant. Rheoleiddir y ran hyn o’n gwasanaeth gan yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr. Gellir gweld y gofrestr trwy wefan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol yn www.fca.org.uk/register.

Mae Cymdeithas y Gyfraith Lloegr a Chymru yn gorff penodedig o dan Ddeddf Marchnadoedd a Gwasanaethau Ariannol 2000. Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr ydyw braich rheoleiddio annibynnol Cymdeithas y Gyfraith. Ombwdsmon y Gyfraith sydd yn delio a chwynion yn erbyn cufreithwyr. Os ydych yn anfodlon ȃg unrhyw gyngor ar yswiriant yr ydych yn ei dderbyn yna dylech gysylltu ȃ Ombwdsmon y Gyfraith.

Cwynion

Mae Carter Vincent wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau cyfreithiol a gofal cleientiaid o ansawdd uchel. Os ydych yn anfodlon âg unrhyw agwedd o’r gwasanaeth a gawsoch neu â bil, cysylltwch â Iestyn Harris ar 01248 362551 (iestyn.harris@cartervincent.co.uk) neu drwy’r post yn ein swyddfa ym Mangor. Mae gennym bolisi ynghlŷn ȃ sut yr ydym yn ymdrin â chwynion sydd ar gael yn ein holl swyddfeydd. Mae gennym wyth wythnos i ystyried eich cwyn. Os nad ydym wedi datrys eich cwyn o fewn yr amser hwn neu os nad ydych yn fodlon hefo ein penderfyniad gallwch gwyno wrth Ombwdsmon y Gyfraith.

Dyma fanylion cyswllt Ombwdsmon y Gyfraith:
P O Box 6806 Wolverhampton,WV1 9WJ
0300 555 0333 – o 8:30 yb hyd at 5:30 yp
enquiries@legalombudsman.org.uk
www.legalombudsman.org.uk

Fel arfer, rhaid cyflwyno cwyn i’r Ombwdsmon o fewn chwe mis o dderbyn ymateb ysgrifenedig terfynol gennym ni neu o fewn 6 mlynedd i’r weithred neu esgeulustod ‘rydych am gwyno amdano (neu o fewn 3 mlynedd o’r dyddiad pan ddaethoch yn ymwybodol o achos y gwyn, os y tu allan i’r cyfnod hwn). Yn gyffredinol bydd yr Ombwdsmon ond yn ystyried cwynion yn ymwneud ȃ gweithred neu ddiffyg gwithredu a ddigwyddodd ar ôl 5 Hydref 2010.

Mae Ombwdsmon y Gyfraith ond yn delio a chwynion gan unigolion neu fusnesau bychain. Felly, ni fydd gan pob cleient yr hawl i wneud cwyn i’r Ombwdsmon, e.e. y rhan fwyaf o fusnesau, elusenau neu glybiau ȃg incwm o £1m neu fwy y flwyddyn, ac ymddiriedolaethau ȃg asedau gwerth £1m neu fwy. Nid yw hyn yn cyfyngu ar hawl cleient i wneud cwyn i ni yn uniongyrchol am y gwasanaeth a dderbyniwyd neu am fil.

Hawl i ganslo

Mae gennych yr hawl i ganslo y cytundeb rhyngom o fewn 14 niwrnod heb rhoi rheswm. Mae’r cyfnod o 14 niwrnod yn cychwyn ar ddyddiad ein cyfarfod cyntaf neu, os yn wahanol, y dyddiad pan wnaethoch roi cyfarwyddiadau i ni.

Er mwyn canslo y cytundeb rhaid i chwi ein hysbysu yn ysgrifenedig o’ch penderfyniad i ganslo (e.g.llythyr trwy’r post, ffacs neu ebost). Mae’n ddigonol eich bod wedi gyrru yr hysbysiad o’ch penderfyniad i ganslo o fewn y cyfnod o 14 niwrnod.

Canlyniadau Canslo

Byddwn yn ad-dalu umrhyw arian a dalwyd gennych i ni o fewn 14 niwrnod o ddyddiad eich hysbysiad yn canslo ein cytundeb.

Os ydych yn ein cyfarwyddo i gychwyn y gwaith yn ystod y cyfnod cychwynol o 14 niwrnod yna byddwch yn gyfrifol am gost y gwaith a wnaed yn y cyfnod hwnnw tan i chwi ein hysbysu o’ch penderfyniad i ganslo y cytundeb.

Cydraddoldeb ac amrywiaeth

‘Rydym yn hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeh wrth ymwneud ȃ’n cleientydd, partion eraill a’n gweithwyr. Cysylltwch ȃ ni os ydych am weld ein polisi cydraddoldeb ac amrywiaeth.

Y gyfraith perthnasol

Ymdrinir ȃg unrhyw achos cyfreithiol fydd yn codi rhyngom yn ôl cyfraith Lloegr a Chymru ac yn llysoedd Lloegr a Chymru.

Cyfarwyddiadau yn y dyfodol

Oni chytunir yn wahanol bydd yr amodau a thelerau hyn yn rheoli unrhyw gyfarwyddiadau eraill gennych yn y mater hwn neu mewn mater arall.

Carter Vincent LLP: partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig a gofrestrwyd yn Nhŷ’r Cwmnïau (no.OC367337) ac sydd â’i swyddfa gofrestredig yn The Port House, Porth Penrhyn, Bangor, Gwynedd LL57 4HN ac a awdurdodwyd a rheoleiddiwyd gan yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr (SRA no. 566521). Mae rhestr o’r aelodau ar gael yn ein swyddfeydd.

Mae unrhyw gyfeiriad at bartner yn cynnwys cyfeiriad at aelod neu gyfarwyddwr.

Rhif TAW: 125450341

Wrth barhau i ddefnyddio'r wefan, rydych yn cytuno i'r defnydd o cwcis. Mwy o wybodaeth

The cookie settings on this website are set to "allow cookies" to give you the best browsing experience possible. If you continue to use this website without changing your cookie settings or you click "Accept" below then you are consenting to this.

Close