Carla Forfar
Cyfraith teulu, trosedd a phrynu a gwerthu eiddo ydyw prif feysydd ymarfer Carla. Mae hi yn arwain ein adrannau teulu a throsedd. Mae ar baneli cyfreithwyr ar ddyletswydd yng ngorsaf yr heddlu a’r llys ynadon. Mae’n gweithio o swyddfeydd Penmaenmawr a Llanfairfechan.
Yn ei hamser hamdden mae Carla yn mwynhau golff a theatr cerddorol.
carla.forfar@cartervincent.co.uk
Iestyn Harris
Mae Iestyn yn arwain ein hadrannau cleient preifat a thrawsgludo. Yn ogystal mae’n gweithredu ym meysydd cyfreithia sifil a chyflogaeth. Mae’n aelod o Gyfreithwyr ar gyfer yr Henoed, Cymdeithas Cyfraith Amaethyddol ac aelod llawn o Gymdeithas Ymarferwyr Ymddiriedolaethau ac Ystadau (TEP). Yn ogystal â gweithredu ar ran unigolion a busnesau mae Iestyn yn gweithredu ar ran nifer elusennau a mentrau cymunedol. Mae Iestyn yn gweithio o swyddfeydd Bangor a Llanfairfechan.
Mae ei ddiddordebau hamdden yn cynnwys cerddoriaeth a gweithgareddau awyr agored, gan gynnwys rhedeg a beicio.
iestyn.harris@cartervincent.co.uk
Hugh Davis
Prif feysydd ymarfer Hugh ydyw cyfraith eiddo, cyfrethia sifil ac ewyllysau a gweinyddu ystadau. Mae hefyd yn delio â materion ym meysydd eiddo deallusol a methdalaeth. Mae Hugh yn mwynhau hwylio a gynt fu’n fynyddwr brwd; bu’n aelod o dîm achub mynydd Llanberis am bron i 40 mlynedd.
Mae’n Notari Cyhoeddus.
hugh.davis@cartervincent.co.uk
Solicitor and Notary Public
Jade Flanagan
Ymunodd Jade â Carter Vincent fel cyfreithiwr dan hyfforddiant yn dilyn gradd dosbarth cyntaf yn y gyfraith o Brifysgol Bangor. Mae ganddi ddiddordeb yng nghyfraith teulu ac mae hefyd un gweithredi ym meysydd prynu a gwerthu eiddo, ewyllysiau a gweinyddu ystadau.
Mae Jade yn aelod o gymdeithas ymarferwyr cyfraith teulu, Resolution, ac mae wedi cymhywso fel cyfryngydd teulu trwy Resolution.
Yn ei hamser hamdden mae Jade yn mwynhau cadw yn heini a phobi, gan gynnwys pobi cacennau i’r swyddfa!
Jennifer Brooksbank
Ymunodd Jennifer a Carter Vincent ym mis Mawrth 2018 ac mae’n gweithio yn bennaf o swyddfa Penmaenmawr. Mae wedi gweithio yn y gorffenol i gwmni cyfreithwyr cenedlaethol yng Nghanolbarth Lloegr lle bu’n ymdrin a materion cyfraith yswiriant. Ei phrif meysydd ymarfer ydyw gwaith Cleientiaid Preifat a Chyfreitha Sifil.
Mae Jennifer yn aelod frwd o Gôr y Gwragedd Milwrol.
Aron Gwyn Williams
Graddiodd Aron hefo graddau mewn Hanes a’r Gyfraith (dosbarth gyntaf) o Brifysgol Bangor cyn cwblhau’r Cwrs Ymarfer Cyfreithiol a gradd meistr yn y gyfraith, busnes a rheolaeth o Brifysgol y Gyfraith, yng Nghaer.
Cyn cychwyn fel Cyfreithiwr dan hyfforddiant bu’n gweithio fel cynorthwyydd i gwmni cyfreithwyr rhyngwladol yng Nghaerdydd, lle bu’n ymdrin ag amrywiaeth o waith masnachol. Wedi cwblhau ei gytundeb hyfforddiant hefo Carter Vincent a chymhwyso fel cyfreithiwr mae Aron yn gweithredu ym meysydd Cyfraith Eiddo. Profiant ac Ewyllysiau, Teulu a Chyfreithia Sifil.
Mae Aron yn mwynhau gwylio pêl-droed a rygbi, a chymdeithasu, yn ei amser hamdden.
Mae Aron yn Notari Cyhoeddus.
Callum Crow, Cyfreithiwr dan hyfforddiant
Yn dilyn gradd yn y Gyfraith o Brifysgol John Moores Lerpwl, ymunodd Callum a Carter Vincent fel cynorthwyydd cyfreithiol wrth gwblhau’r cwrs ymarfer y gyfraith (‘LPC’). Yn dilyn cwblhau’r cwrs ymarfer y gyfraith cychwynnodd Callum ar gytundeb hyfforddi hefo Carter Vincent. Ei brif feysydd ymarfer yw gwaith cleient preifat a thrawsgludo. Mae Callum yn gweithio o’n swyddfa ym Mhenmaenmawr yn bennaf.
Yn ei amser hamdden mae Callum yn casglu a churadi recordiau finyl, ac yn cerdded hefo’i Border Collie.